Trywanwyd, do,
fy Mhrynwr rhad,
Nes daeth o'i galon ddwr a gwaed,
Yn ffrwd fel afon bur;
Oedd ar y llawr i'w wel'd yn llyn,
Yn frwd ar ben Calfaria fryn:
O f'enaid cofia'i gur.
Mi glywa'i lef,
pan chwerwa'r loes
A'i irad gri Ef ar y groes,
Am faddeu imi'n wir;
Ei weddi âi droswyf uwch y nen,
A mi'n ei hoelio ar y pren;
O! f'enaid cofia'i gur.
Dros f'enaid i bu'r addfwyn Oen
Fel hyn yn dyoddef dirfawr boen,
I'm gwneyd yn rhydd yn wir:
'Roedd yn ei fryd
orphenu'r gwaith
O eithaf tragwyddoldeb maith:
Cân f'enaid am ei gur.
William Williams 1717-91
Tonau [886D]: gwelir: Ca'dd gario'r groes i ben y bryn Fy enaid nac anghofia groes O deffro tro fy enaid trist Y ddaear fud ro'i meirw'n fyw Yn Eden cofiaf hynny byth |
He was pierced, he was,
my gracious Redeemer,
Until water and blood came from his heart,
As a stream like a pure river;
It was on the ground to be seen as a lake,
Earnestly on the summit of Calvary hill:
O my soul, remember his wounding.
I hear his wail,
when the anguish grows bitter
And his sorrowful cry on the cross,
For forgiveness for me truly;
His prayer went for me above the sky,
And I nailing him onto the tree;
O my soul, remember his wounding.
For my soul was my dear Lamb
Thus suffering enormous pain,
To make me free truly:
He was in his earnestness
finishing the work
From the extremity of a vast eternity:
Sing, my soul, about his wounding.
tr. 2021 Richard B Gillion
|
|